Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 119:26:44
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episódios

  • Agor y Drws gyda Nia Parry : Joe Morgan

    Agor y Drws gyda Nia Parry : Joe Morgan

    11/11/2026 Duração: 33min

    Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.Yn y podlediad yma, mae Nia Parry yn cwrdd â siaradwyr newydd ac yn clywed am eu bywydau, eu taith a'r cyfloedd mae dysgu Cymraeg wedi'i roi iddyn nhw.Yn y bennod yma mae Nia yn 'agor y drws' i Joe Morgan sydd yn fyfyriwr newyddiaduraeth o Gaerdydd, yn ddysgwr Cymraeg brwd ac yn grёwr cynnwys digidol sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd ar lwyfannau fel TikTok, Instagram ag YouTube. Yn 2025 enillodd Fedal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd am ei gyfraniad arbennig i'r Gymraeg, ac mae o hefyd yn gyflwynydd podlediad poblogaidd ‘Sŵntrack gyda Joe’. Yn ystod y sgwrs gyda Nia Parry mi gawn ni glywed am daith iaith Joe yn dysgu’r Gymraeg, ei gariad at gyfryngau a'r effaith mae'r Gymraeg wedi'i chael ar ei fywyd.

  • Pigion, Tachwedd 4 2026

    Pigion, Tachwedd 4 2026

    04/11/2026 Duração: 27min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Hydref 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1Cnoi ngwinedd am Biting my nails Ffili - Methu Canolbwyntio - Concentrating Arfer - Habit Beth wnaethpwyd - What was done Caredicach - Kinder Eitha erchyll - Quite horrible Cwato gair arall am Cuddio/to hideClip 2Ceisiwr lloches - Asylum seeker Mantais - Advantage Gwirfoddoli - To volunteer Ffoaduriaid - RefugeesClip 3Golygydd - Editor Ar ddamwain - Accidentally Her - A challenge Anhygoel - Incredible Cyd-destun - Context Amrywiaeth - Variety Ffuglen - Fiction Ffeithiol - Non-fiction Cael eu hystyried - Being consideredClip 4Lliwgar - Colourful Trwchus - Thick Bach yn grac - A little bit angry Atgofion - Memories Wyneb - FaceClip 5Ofergoelion - Superstitions Diwylliant - Culture Mwclis - Necklace Ddim yn gadael i ni - Didn’t allow us toClip 6Ail ddarlledu - Repeat (for a progra

  • Agor y Drws gyda Nia Parry : Katie Owen

    Agor y Drws gyda Nia Parry : Katie Owen

    14/10/2026 Duração: 30min

    Yn y podlediad newydd yma o’r enw ‘Agor y Drws’, mae Nia Parry yn cwrdd â siaradwyr Cymraeg newydd ac yn clywed am eu bywydau, eu taith a'r cyfleoedd mae dysgu Cymraeg wedi'i roi iddyn nhw.Heddiw, mae Nia yn ‘agor y drws’ i'r cyflwynydd, y crëwr cynnwys ar y platfformau digidol a'r DJ Katie Owen.Geirfa: blaidd - wolf cyfarth – to bark direidus - mischievous cyffrous – exciting uchafbwynt(iau)- highlight(s) miloedd – thousands mynd amdani – to go fo it bwydo – to feed her(iau) – challenge(s) cymysgu – to mix, to mix up tyfu – to grow neges destun – text darlledu – to broadcast cyflwynydd - presenter o’r corrun i’r sawdl – from head to toe balch – proud dywediad - saying Gorau Cymro, Cymro oddi cartref (idiom) – A Welshman away from home is a stronger Welshman ar dân – on fire model(au) rôl – role model(s) dramor – abroad chwifio’r faner – to fly the flag darganfod – to discover bywyd – life hyder – confidence hyderus – confident perthyn – to belong to methu curo hynna – can’t beat that gofalus – careful emosi

  • Pigion, Hydref 7 2026

    Pigion, Hydref 7 2026

    07/10/2026 Duração: 29min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1Gwobr: Award Ail-ddechrau: Restarting Croesi bysedd: Crossing fingers Amserol: Timely Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dibwys: Unimportant Cysylltiadau: Connections Ynganiad: PronunciationClip 2Eirin Mair: Gooseberries Mafon: Raspberries Mefus: Strawberries Mwyar duon: Blackberries Bricyll eirin: Apricotsa dyma rhai o’r geiriau eraill sy’n codi yn y clipArllwys: To pour Sur: SourClip 3Sylweddoli: To realise Rhoi lan- ffordd arall o ddweud - Rhoi’r gorau i Cripad draw: Crawling over Dim cyffro: No excitement Ar bwys - ffordd arall o ddweud - Wrth ymyl Cydweithwyr: Co-workers Y ddau gywair: Both keysClip 4Cynulleidfa: Audience Cyfres: Series Anferthol: Huge Edau: Thread Y gweledol: The visual Cynhyrchydd: Producer Ffawd: Fate Ymadrodd: A saying Cyfforddusrwydd: Comfort Cymro i’r carn:

  • Sgwrsio: Jess Davies

    Sgwrsio: Jess Davies

    09/09/2026 Duração: 47min

    Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda'r gyflwynwraig, awdures ag ymgyrchydd hawliau merched Jess Davies. Fe symudodd Jess i Benrhyncoch o Loegr yn ferch ifanc ac er iddi ddysgu'r iaith yn yr ysgol Gynradd fe gollodd hi hyder yn y Gymraeg tra bod hi yn yr Ysgol Uwchradd a'r Brifysgol. Mae hi bellach wedi ail-ddarganfod yr iaith ac yn cyfrannu i raglenni ar S4C a Radio Cymru. Mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno y podlediad Shame on Who with Jess and Joey.

  • Pigion, Medi 8 2026

    Pigion, Medi 8 2026

    08/09/2026 Duração: 28min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1Bwrlwm: A buzz Diwylliant: Culture Gwirfoddolwyr: Volunteers Yr her: The challenge Brwdfrydedd: Enthusiasm Chwilfrydig: Curious Agwedd: Attitude Amlwg: Prominent Clip 2Anwybyddu: To ignore Olrhain hanes y teulu: Tracing the family history Atyniad amaethyddol: An agricultural attraction Crefyddol: Religious Meddiannu: To occupyClip 3Sylwebydd: Commentator Cyfreithiwr: Solicitor Barnwr: A Judge Trosedd: Crime Wedi brathu: Had bitten Ynadon: Magistrates Rhybudd: A warning Cael ei ddifa: Destroyed Y diffynnydd: The defendant Hepian: To dozeClip 4Darganfod: Discover Sa i’n siŵr - ffordd arall o ddweud - Dw i ddim yn siwr Cw(y)mpo mas: To fall out Gwartheg godro: Milking cowsClip 5Cyflwynydd: Pr

  • Sgwrsio: Mila Maxon

    Sgwrsio: Mila Maxon

    12/08/2026 Duração: 34min

    Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Mila Maxon a gafodd ei geni yn Llundain cyn symud i Ffrainc ac yna Seland Newydd lle cafodd hi ei magu. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw dair mlynedd ac fe gafodd hi ei denu i ddysgu Cymraeg ar ol gweld y gyfres deledu "Y Gwyll".

  • Pigion, Awst 5 2026

    Pigion, Awst 5 2026

    05/08/2026 Duração: 31min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1Cafodd hi ei hanrhydeddu: She was honoured Yn rhannol: PartlyIechyd corfforol: Physical healthCadarnhaol: PositiveGwthio: To pushDianc: To escapeTrobwynt enfawr: A huge turning pointHogia gair arall am BechgynGwenu fel giât: Smiling from ear to earMeddwl y byd i mi: Means the world to me Clip 2Swnio’n uffernol: Sounded awfulToriad: A break Cyhyr: MuscleDoniol: AmusingBugeiliaid: ShepherdsAtsain: EchoYn rhwydd: EasilyGreddfol: Instinctive Clip 3Datganiad Annibyniaeth: Declaration of IndependenceTrefedigaethau: ColoniesGwrthryfel: RebellionYr Iwerydd: The AtlanticY Gyngres: CongressBoneddigion: GentlemenPendroni: PonderingWedi dirywio: Had deterioratedDyled: DebtWedi elwa: Had benefittedClip 4Deunaw mlynedd: Eighteen yearsCyfres: S

  • Pigion, Gorffennaf 9 2026

    Pigion, Gorffennaf 9 2026

    09/07/2026 Duração: 33min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mehefin 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1 Cefnogaeth - Support Elwa - To benefit Newid trywydd -To change the course Pryderu - To worry Pwysau - Pressure Rhoi’r gorau i - To give up Braidd neb - Hardly anyone Cwrs TAR - PGSE course Trwy gyfrwng - Through the medium ofClip 2Ymdrechu - To make an effort Gwneud ei gorau glas - Doing her best Ychwanegol - Additional Oherwydd - Because Elfennau - Elements Perthnasol - Relevant Goddefgar - Tolerant Methiant - A failureClip 3Cymeriad a hanner - A real character Ynghlwm â - Part of Heb os - Without doubt Cyfarwyddo â - To get used toClip 4Cerddorion - Musicians Chwerthin - To laugh Atgoffa - To remind Cadw mewn cyswllt - Keeping in touchClip 5Bridfa - Stud farm Ffrindiau oes - Lifelong friends Cyfrwy - Saddle Cyfryngau Cymdeithasol - Social media Yn ddi

  • Sgwrsio: Trishna Singh Davies

    Sgwrsio: Trishna Singh Davies

    08/07/2026 Duração: 35min

    Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Trishna Singh Davies sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Cerddoriaeth yw byd Trishna a DJ yw hi wrth ei galwedigaeth. Mae hi'n gweithio ar brosiectau fel Sgrech Fler a Ladies of Rage.

  • Sgwrsio: Jess Li

    Sgwrsio: Jess Li

    10/06/2026 Duração: 32min

    Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Jess Li sydd yn wreiddiol o Gaerffili. Mae Jess yn beirianydd sifil wrth ei galwedigaeth ac yn medru siarad 4 iaith sef yr iaith Hakka, Cantoneg, Saesneg a Chymraeg. Mae hi wedi bod yn dysgu ers y Cyfnod Clo.

  • Pigion, Mehefin 3 2026

    Pigion, Mehefin 3 2026

    03/06/2026 Duração: 27min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:Clip 1Llongau anferth: Huge shipsHala ofn: Causing frightY tywyllwch: The darkSylweddoli: To realiseO hyd: In lengthRhwyfo: RowingClip 2 Pencampwriaethau: ChampionshipsWnes i gyflawni: I completed Yn annisgwyl: UnexpectedlyCynrychioli Prydain: To represent BritainDiolchgar: ThankfulTroseddeg: CriminologyClip 3 Unigryw: UniqueAnhygoel: IncredibleArfordir: CoastHeddwas - gair arall am PlismonDiwylliant: CultureBraint: PrivilegeClip 4 Celf: ArtDim syndod: No surpriseGwasanaethau ffrydio: Streaming servicesGweddill y byd: The rest of the worldChdi - gair arall am TiYmchwilio: ResearchingCloriau: Album sleevesTaro’r hoelen ar ei phen: Hitting the nail on its headYn hytrach na: Rather thanClip 5 Ymwybyddiaeth: Awa

  • Pont: Ryan Rowe

    Pont: Ryan Rowe

    26/05/2026 Duração: 22min

    Ryan Rowe Gwestai Angharad yn y bennod hon yw Ryan Rowe. Magwyd Ryan yn Peterborough yn Lloegr. Symudodd i’r brif ddinas er mwyn astudio daeareg yn y brifysgol. Erbyn hyn mae’n gyd-berchennog siop gacennau ym Mharc Fictoria. Penderfynodd ddysgu’r Gymraeg er mwyn siarad â chwsmeriaid ei siop yn Gymraeg. Eleni, cyrhaeddodd rownd gynderfynol ar raglen deledu Y Llais. Dyma ei brofiad cyntaf o ganu’n fyw yn y Gymraeg. Geirfa ar gyfer y bennod. Daeareg-geology Uniaethu- to relate Cyfarchiad- greeting Awyddus- eager/ keen Danteithion- delicacies Cofiadwy-memorable Ail alwadau- second calling Clyweliadau cudd- masked audition

  • Pigion, Mai 6, 2026

    Pigion, Mai 6, 2026

    06/05/2026 Duração: 29min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ebrill 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Clip 1Holltodd: Split Chi’mod - ffordd fyr o ddweud - Dach chi’n gwybod Newid syfrdanol: An astounding change Yr awyrgylch: The atmosphere Annibyniaeth : Independence Mwyafrif: Majority Brawdoliaeth: Brotherhood Ysu: Really eager Hanfodol: Essential Cywilyddio: To feel ashamedClip 2Cyfleoedd: Opportunities Carfan: Squad Y gamp: The sport Fawr ddim sylw: Hardly any attention Darlledu: To broadcast Sylwebaeth lawn: Full commentary Sylweddol: Substantial Twf: Growth Cynnydd syfrdanol: An amazing increase Clip 3Ymwybodol: Aware Cynhadledd: Conference Parch: Respect Ymchwil: Research Cyd-destun: Context Ystadegau: StatisticsClip 4Dylunio: To design Wedi gwirioni: Over the moon Wedi ‘laru: Had enoughClip 5Dyfeisio: To invent Allweddell: keyboard Arloesol: Innovative Bwystfil corfforaethol:

  • Pont: Kate Jackson

    Pont: Kate Jackson

    08/04/2026 Duração: 19min

    Kate Jackson yw gwestai Angharad Lewis yn y bennod hon. Cafodd Kate ei magu yn Newport, Swydd Amwythig. Mae Kate yn gweithio fel Prif Swyddog Cyllid Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg er mwyn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Yn y podlediad hwn, cawn glywed am ei phrofiadau wrth ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Geirfa ar gyfer y bennodSwydd Amwythig - Shropshire Cyfrifydd - Accountant Canmoliaeth - Raise Iaith frodorol - Native language Cymhwyso - To qualify Tŷ bach twt - Wendy house Atgyfnerthu - To reinforce Prif Weithredwr- Chief Executive

  • Pigion, Ebrill 1, 2026

    Pigion, Ebrill 1, 2026

    01/04/2026 Duração: 27min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru a phodlediadau ar BBC Sounds yn ystod mis Mawrth 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennod:Clip 1 Cyfryngau cymdeithasol: Social media Y nod: The aim Blodeuog: Flowery O’r crud: From the cradle Torri nghalon i: Breaking my heart Cymysgu: Mixing Andros o glyfar: Extremely clever Esblygu: To evolve Addasu: To adaptClip 2 Cyhoeddi: To publish Yn taro deuddeg: To strike the right note Yn llythrennol: Literally Milltir sgwâr: Square mile Dyfyniad: Quotation Am fraint!: What a privilege! Bodoli: Existing Rheolaeth: Control Yn llwyr: Totally Digwydd bod: As it happensClip 3 Fel dylsa hi ffordd arall o ddweud fel dylai hi Ymateb: To respond Wnaeth fy nharo i: Struck me Ystyried: To consider Hyfforddi: To train Cysylltiadau: Connections Cyffwrdd: To touchClip 4 Be mae o’n ei olygu? What does it mean? Gymodd fy nghalon i: St

  • Pont: Kevin Davies

    Pont: Kevin Davies

    11/03/2026 Duração: 22min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Gwestai Angharad yn y bennod yma ydy Kevin Davies. Cafodd Kevin ei fagu yn Ninbych y Pysgod yn Sir Benfro. Ar ôl treulio cyfnod yn y fyddin ac yn gweithio dramor, dychwelodd i Gymru. Wedi iddo ymddeol yn 2022 penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae’n byw ym mhentref Trefgarnowen, Sir Benfro ac yn defnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol yn ei ardal. Ers llynedd, mae wedi bod yn gwirfoddoli ar bwyllgor lleol Eisteddfod y Garreg Las ac wedi bod yn rhan ganolog o’r ymgyrch i godi arian tuag at yr Eisteddfod ym mis Awst.Geirfa ar gyfer y bennod:-anogaeth - encouragement crwt - bachgen bach ysu - to crave/yearn cywilydd - shame hiraeth - longing/ homesickness dyhead - aspiration/desire ysfa - desire/craving diwyd - diligent amhrisiadwy - priceless ymroi - to commit/devote oneself

  • Pigion, Mawrth 4, 2026

    Pigion, Mawrth 4, 2026

    04/03/2026 Duração: 32min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Chwefror 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1 Euog: Guilty Gor-lenwi: To overfill Yn ei hanfod: Essentially Cwt - ‘cynffon’ yn air Cymraeg arall neu yn Saesneg - Tail Awgrymu: To suggest Wedi ymlâdd - ffordd arall o ddweud - Wedi blino Datblygu: To develop Cyn lleied; So little Mwy na thebyg: More than likely Yn hytrach na: Rather thanClip 2 Dynwaredwr: Impresonator Cronfa: Fund Dwlu ar – ffordd arall o ddweud - Yn hoff iawn o Cynulleidfa: AudienceClip 3 Rhegi: To swear Doniol: Funny Rhyngo chdi a fi: Between you and me Genedigaeth: Birth Wedi gwirioni - wedi dwlu neu -Really pleased Gwyn eich byd chi: You’re very blessed I’n plith ni: To our midst Croesawu i’r byd: Welcoming to the worldClip 4 Y pumed tro ar hugain: The 25th time Traddodiad cudd: Hidden tradition Ail ystyried; To reconside

  • Pont

    Pont

    11/02/2026 Duração: 30min

    Angharad Lewis sy'n sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd.Yn y bennod yma mae Angharad yn sgwrsio gyda Mark Adey.Cafodd Mark ei fagu ym mhentref Pontlliw ger Pontarddulais. Penderfynodd fynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ei bedwardegau. Mae’n byw gyda’i deulu ym Mhentre’r Eglwys yn Sir Rhondda Cynon Taf. Mae’n gwirfoddoli ar bwyllgor Menter Iaith Rhondda Cynon Taf ac yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson yn ei gymuned leol. Mae hefyd yn ddynwaredwr Elvis!Geirfa ar gyfer y bennodAr y gweill - On the cards Tynfa – Attraction Cymhwyso - To qualify Ysgogiad - Incentive Gwaddol - Legacy Dynwaredwr - Impersonator Dilyniant – Sequence

  • Pigion, Chwefror 4, 2026

    Pigion, Chwefror 4, 2026

    04/02/2026 Duração: 29min

    Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Ionawr 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones.Geirfa ar gyfer y bennodClip 1 Mwya cyffredin: Most common Mwya tebygol: Most likely Lawrlwytho: To download Ildio: To give up Yn anos ffordd arall o ddweud Yn anoddach Ail-greu: To re-create Llond twll o ofn: A heck of a fright Datblygiadau: Developments Deallusrwydd: Intellegence Yn gyson: Regularly Pryderus: WorryingClip 2 Poblogaidd: Popular Cneifio: Shearing Cyn lleied: As little Un ai: Either Yn fentrus: Adventurous Antur: Adventure Yr Aifft: Egypt Toddi: To meltClip 3 Agwedd: Attitude Arwrol: Heroic Dychryn: To frighten Rhuthro: To rush Marwolaeth: Death Dylsa fo ffordd arall o ddweud Dylai o Arch: Coffin Derwen: Oak tree Egni: Energy Ffynnu: To thrive Nefoedd: Heaven Codi gwrychyn: To offend Clip 4 arth gwyn’ neu ‘arth wen’ Cynefin naturiol: Natu

página 1 de 21