Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 507:56:27
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episódios

  • Mei Gwynedd

    Mei Gwynedd

    08/11/2026 Duração: 50min

    Mae Mei Gwynedd yn un o enwau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth Gymraeg cyfoes. Yn wreiddiol o Waunfawr ger Caernarfon, mae wedi bod wrth galon y sîn gerddoriaeth ers dros dri degawd, gan chwarae rhan allweddol mewn bandiau eiconig fel Beganifs, Big Leaves, Sibrydion a The Peth. Mae hefyd wedi gwneud gyrfa lwyddiannus o'i angerdd dros gerddoriaeth, gan weithio ar draws sawl agwedd ar y diwydiant.Heddiw, mae'n byw yng Nghaerdydd lle mae'n gweithio fel cerddor, cyfansoddwr a chynhyrchydd llawrydd, yn ogystal â rhedeg stiwdio a label recordiau. Mae hefyd yn wyneb cyfarwydd i lawer drwy ei brosiect poblogaidd Band Tŷ Potas, sy'n boblogaidd iawn yn yr Eisteddfod. Mae hefyd yn brysur gyda cherddorfa ukulele yng Nghaerdydd, a sefydlwyd yn wreiddiol i annog dysgwyr Cymraeg. Yn 7 oed, fe benderfynodd Mei ei fod eisiau bod yn ganwr pop, ac fe sefydlodd ei fand cyntaf yn 11eg mlwydd oed. Mae wedi rhannu llwyfan gyda Shaking Stevens a'r grŵp Oasis, ac mae'n rhannu'r hanesion yma ac yn dewis 4 cân sydd wedi gadael argraff ar

  • Geraint Evans

    Geraint Evans

    01/11/2026 Duração: 49min

    Â hithau'n benblwydd S4C yn 44 oed, mae Beti George yn holi Geraint Evans - Prif Weithredwr S4C.Fel mab i weinidog, fe symudodd y teulu sawl gwaith, a bu'n byw yn Three Crosses ger Abertawe, cyn symud i Drawsfynydd, Llanbrynmair ac yna i Bontarddulais.Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol, ac yna i astudio Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.Bu'n gweithio fel newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, cyn ymuno hefo S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes.Mae'n Brif Weithredwr S4C ers mis Ionawr 2025.Mae Beti a Geraint yn trafod ei fagwraeth, sefyllfa bresennol S4C, a gobeithion Geraint ar gyfer dyfodol y Sianel a darlledu yng Nghymru.

  • Mari Grug

    Mari Grug

    18/10/2026 Duração: 51min

    Mari Grug James yw un o wynebau mwyaf adnabyddus S4C, mae hi'n gyflwynydd ar Heno a Prynhawn Da. Wedi’i magu ym Mynachlog-ddu, dechreuodd ei gyrfa gyda rhaglenni plant cyn symud ymlaen i newyddion a chyflwyno. Ers cael diagnosis o ganser y fron yn 2023, mae hi wedi codi ymwybyddiaeth yn ddiflino drwy ei gwaith darlledu, ei rôl fel llysgennad Ymchwil Canser Cymru, a’r podlediad llwyddiannus 1 mewn 2, a enillodd nifer o wobrau.Yn 2026, cafodd ei hanrhydeddu drwy gael ei dewis yn Llywydd Gŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd Mari Grug yn ymuno â ni i sôn am ei gyrfa, ei hymgyrchu, a’i thaith bersonol ryfeddol.Mae hi hefyd yn dewis 4 cân yn cynnwys O Magnum Mysterium · Côrdydd. Fe recordiwyd y rhaglen yma cyn ei llwyddiant yn BAFTA Cymru 2026, Mari oedd cyflwynydd gorau'r flwyddyn am y rhaglen Mari Grug: Un Dydd Ar y Tro, sy'n olrhain y cyfnod wedi iddi gael gwybod ei bod â chanser am yr eildro.

  • Joseff Gnagbo

    Joseff Gnagbo

    11/10/2026 Duração: 50min

    A hithau'n Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg, mae Beti George yn holi Joseff Gnagbo.Cafodd Joseff Gnagbo ei eni yn Arfordir Ifori a daeth i Gymru fel ceisiwr lloches yn 2017. Mae o bellach yn byw yng Nghaerdydd. Dysgodd y Gymraeg, ac aeth ymlaen i weithio fel tiwtor Cymraeg.Mae'n ymgyrchydd, athro iaith, ieithydd a cherddor.Bu'n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac mae hefyd wedi ymgyrchu dros hawliau ffoaduriaid. Cyn dod i Gymru, roedd yn newyddiadurwr ac yn athro ieithoedd yn Abidjan. Roedd eisoes yn siarad nifer o ieithoedd, gan gynnwys Ffrangeg, Saesneg, Almaeneg a Swahili. Yn 2025, roedd Joseff yn y newyddion - fel y ffoadur cyntaf i sefyll fel ymgeisydd ar gyfer y Senedd.

  • Gav Murphy

    Gav Murphy

    04/10/2026 Duração: 49min

    Mae Gav Murphy yn bersonoliaeth adnabyddus ym maes gemau fideo. Mae'n gyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd cynnwys, ac yn un o wynebau mwyaf adnabyddus sianel RKG, lle mae'n cyflwyno fideos, podlediadau ac adolygiadau gemau a ffilmiau.Treuliodd ei blentyndod ym Maes y Cymer ger Caerffili, lle bu'n byw tan 2003. Yn y flwyddyn honno symudodd i Aberystwyth i astudio Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan gwblhau ei radd yn 2007. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Ysgrifennu Sgriptiau.Er bod llawer o bobl yn gweld Gav fel y person doniol, y "class clown" sy'n codi calon pawb arall, mae'n cyfaddef bod anfanteision i hynny hefyd. Yn aml, pan mai chi yw'r person sy'n gwneud i bawb chwerthin ac yn codi ysbryd y criw, gall pobl anghofio gofyn sut rydych chi eich hun yn teimlo. Mae wedi profi cyfnodau pan oedd yn teimlo'n isel ac yn cael trafferthion gyda'i iechyd meddwl, ond nid oedd pobl bob amser yn sylweddoli hynny oherwydd y ddelwedd allanol hapus a doniol. Mae'n rhannu hanesion ei fywyd

  • Sharon King

    Sharon King

    20/09/2026 Duração: 48min

    Mae Sharon King yn Ddarlithydd mewn Gwyddor Filfeddygol yn Ysgol Gwyddor Filfeddygol Prifysgol Aberystwyth. Mae ganddi gefndir helaeth mewn ymarfer milfeddygol, ar ôl graddio mewn Gwyddoniaeth Anatomegol o Brifysgol Bryste ac ennill gradd BVetMed o Goleg Milfeddygol Brenhinol Llundain. Cafodd ei chydnabod yn genedlaethol yn 2026 pan enillodd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Filfeddygol Prydain (BVA Veterinary Mentor Award) am ei chyfraniad eithriadol at fentora a chefnogi myfyrwyr a chydweithwyr yn y proffesiwn milfeddygol. Cafodd ei chanmol am ei thosturi, ei chefnogaeth bersonol, a’i hymrwymiad i feithrin hyder a datblygiad proffesiynol y genhedlaeth nesaf o filfeddygon.Mae hi hefyd yn gweithio fel milfeddyg 1 diwrnod yr wythnos yn Aberystwyth, ac yn fam i 2 o blant. Sharon oedd y ferch gyntaf i weithio fel milfeddyg yn Nolgellau, ac mae hi'n cofio'n glir cyfnod clyw traed ar genau yn 2001, " mae dal yn fyw yn y cof" a'i effaith ar ffermwyr Cymru. Cawn hanesion difyr ei bywyd, ac mae hi hefyd yn trafod

  • Arwel Hughes

    Arwel Hughes

    13/09/2026 Duração: 49min

    Beti George yn holi Arwel Hughes neu Arwel MAD fel mae rhai yn ei adnabod, sy'n adnabyddus fel DJ ac fel dyn busnes llwyddiannus ar Ynys Môn. Sefydlodd gwmni sain a goleuo MAD dros 25 mlynedd yn ôl, ac ers hynny mae wedi bod yn rhan allweddol o drefnu a chefnogi digwyddiadau mawr ledled Cymru. Mae wedi gweithio gyda nifer fawr o artistiaid Cymraeg ac adnabyddus dros y blynyddoedd, ac mae hefyd yn rhedeg busnes ymgymerwyr angladdau teuluol sydd wedi bodoli ers pedair cenhedlaeth.Fe ddechreuodd Arwel ei yrfa fel DJ yn 13eg mlwydd oed, yn cynnal disgos yn lleol, a bu'n gweithio yn ddiweddarach yr Octagon ym Mangor am 12eg mlynedd.Fo hefyd sy’n gyfrifol am atgyfodi gŵyl Llychlynwyr Amlwch sy’n denu cannoedd o bobl o bob cwr o Brydain i gymryd rhan mewn ‘re-enactments’.Mae wedi mabwysiadu dau o blant ac yn briod gyda Elaine. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 can yn cynnwys Elin Fflur – Ar Lan y Môr -y gân sy'n mynd ag Arwel yn syth yn ôl i'w blentyndod yn Amlwch.

  • Nic Parry

    Nic Parry

    16/08/2026 Duração: 45min

    Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau. Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch. Yn ystod y sgwrs mae cyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen. Hefyd, mae'n trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd.

  • Vaughan Roderick

    Vaughan Roderick

    02/08/2026 Duração: 52min

    Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon. Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd.Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili. Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau.Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaeth

  • Hedydd Hughes

    Hedydd Hughes

    26/07/2026 Duração: 49min

    Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir. Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band. Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.

  • Dr Simon Brooks

    Dr Simon Brooks

    19/07/2026 Duração: 52min

    Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry. Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith. Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myelo

  • Emyr Gibson

    Emyr Gibson

    12/07/2026 Duração: 48min

    Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin. Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden.

  • Phyllis Kinney

    Phyllis Kinney

    06/07/2026 Duração: 35min

    Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997.Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Merêd Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ymroddodd Phyllis a Merêd i gasglu, diogelu a hyrwyddo traddodiad canu gwerin Cymru, gan sicrhau bod caneuon gwerin yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cyfrannodd Phyllis yn helaeth at y maes drwy gyhoeddi erthyglau, papurau academaidd a llyfrau uchel eu parch ar gerddoriaeth. Dyma gyfle i wrando ar y sgwrs gynnes a chofiadwy Phillys Kinney gyda Beti George yn 1997.

  • Lili Mai Jones

    Lili Mai Jones

    05/07/2026 Duração: 44min

    Gwestai Beti George yw y pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gyda dau actor Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae Lili'n sôn sut mae pêl droed a chwaraeon yn medru helpu iechyd meddwl ac yn dewis 4 cân yn cynnwys can gan Ryan a Ronnie.

  • Eurig Wyn Jones

    Eurig Wyn Jones

    28/06/2026 Duração: 49min

    Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain.Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent.Yn ddiweddarach, bu’n gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd €130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad.Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o’i waith.Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, d

  • Hannah Parr

    Hannah Parr

    21/06/2026 Duração: 49min

    Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i’r teulu, a fyddai’n cysylltu’n agos â gyrfa Hannah heddiw.Mae hi’n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.

  • Aled Hall

    Aled Hall

    14/06/2026 Duração: 49min

    Mae’r tenor o Gymru Aled Hall wedi perfformio repertoire sy’n ymestyn o Mozart i Wagner gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd ledled y byd. Fe’i ganwyd yn 1968 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn fab fferm. Doedd dim pwysau arno i aros adref i ffermio, ac fe aeth i'r brifysgol i Aberystwyth i ddechrau i astudio cerdd. Mae bellach yn canu mewn tŷ opera yn Covent Garden, Llundain ers dros 11 mlynedd, ac wedi dilyn gyrfa fel canwr ers 30 mlynedd. Mae’n gantor opera proffesiynol sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr ledled y byd. Mae hefyd yn aelod o’r grŵp “The Three Welsh Tenors”. Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis ambell gan yn cynnwys un gan Stuart Burrows.

  • Ann Davies AS

    Ann Davies AS

    24/05/2026 Duração: 49min

    Etholwyd Ann Davies yn AS Caerfyrddin yn 2024. Cafodd ei geni a’i magu yn Sir Gâr, ac mae Ann wedi gwasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Landdarog ers 2017, ac fel Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio ers 2021.Yn gyn-ddarlithydd mewn addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac yn gyn-athrawes gerdd peripatetig, mae Ann yn gydberchennog meithrinfa leol i blant ac mae wedi ffermio yn ardal Llanarthne ers 1992. Fe benderfynodd Ann fynd yn AS wedi blynyddoedd o ymgyrchu yn lleol, yn gwasanaethu fel cadeirydd sirol i undeb ffermio, a bu'n llais amlwg yn yr ymgyrch yn erbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi yn Sir Gaerfyrddin.

  • Iwan Teifion Davies

    Iwan Teifion Davies

    17/05/2026 Duração: 49min

    Beti George sydd yn holi Iwan Teifion Davies, arweinydd cerddorol a phianydd o Gymru sy’n ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth glasurol a’r opera yng Nghymru a thu hwnt. Fe ddaw yn wreiddiol o Landudoch a fe oedd y cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Fe aeth i Goleg Emmanuel yng Nghaergrawnt i astudio gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg. Mae bellach yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth Prifysgol Aberystwyth ers 2021, ac mae’n arwain cerddorfa Philomusica of Aberystwyth. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig Musicfest Aberystwyth ers 2023 ac yn Bennaeth Cerdd ar Ŵyl Ryngwladol Buxton yn Swydd Derby. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân, gan gynnwys un gan Cat Stevens.

  • Owain Richards

    Owain Richards

    10/05/2026 Duração: 50min

    Owain Richards Pennaeth yr Heddlu yn Gibraltar yw gwestai Beti George, ac mae'n cael ei alw yn " Geidwad y Graig".Fe gafodd ei fagu ar fferm Cae’r Defaid ger Trimsaran yng Nghwm Gwendraeth, ac roedd o wrth ei fodd gyda rhaglenni am yr heddlu fel 'The Bill' ac fe benderfynodd yn fachgen ifanc mai plismon oedd ef am fod wedi tyfu fyny. Fe ddechreuodd ei yrfa yn Aberystwyth, aeth ymlaen i'r "Met" yn Llundain ac fe gafodd ei ddyrchafu i fod yn Commander. Roedd Owain wedi ei leoli yn Wandsworth borough, yn Tooting fel Arolygydd Ditectif. Bu'n gweithio wedyn yn Barnet, a Kingston Upon Thames fel Prif Arolygydd yna dyrchafiad arall i fod yn Arolygydd Prif Dditectif, ble roedd o’n delio gyda throseddau yn erbyn plant. Roedd hyn yn anodd iawn, a fynta’u yn dad ei hun, roedd darllen a delio gyda rhai o’r achosion difrifol hynny yn erchyll, ond roedd hi’n rhan o’r swydd ac roedd rhaid dysgu sut i ddygymod ar sefyllfaoedd oedd yn codi yn y gweithle. Yn ystod y cyfnod yma hefyd, roedd ail strwythuro mawr yn digwydd ar

página 1 de 34